Skip to main content

Cwestiynau cyffredin ynglŷn â chofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ar gyfer astudiaethau brechlyn coronafeirws

Sut allaf i newid fy manylion ar ôl i mi gofrestru?

Ar hyn o bryd, nid oes ffordd i newid eich manylion. Os oes angen i chi wneud newid, er enghraifft os ydych chi wedi cael prawf coronafeirws positif, mae angen i chi dynnu'ch caniatâd yn ôl a chofrestru gan ddefnyddio'r gwasanaeth eto.

Sut allaf i dynnu fy nghaniatâd yn ôl os nad ydw i eisiau i ymchwilwyr gysylltu â mi mwyach?

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i dynnu’ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Mae’r ddolen i dynnu’ch caniatâd yn ôl hefyd yn yr e-bost cadarnhau a anfonwyd atoch chi pan wnaethoch chi gofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ar gyfer ymchwil coronafeirws.

Pwy sy’n cael gweld fy manylion os ydw i’n cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â mi ar gyfer ymchwil coronafeirws?

Dim ond ymchwilwyr sy’n gweithio ar astudiaethau sydd wedi’u cymeradwyo i ddigwydd yn y GIG fydd yn cael gweld eich manylion pan fyddwch chi’n cofrestru. Byddan yn cyrchu’r wybodaeth hon yn uniongyrchol trwy NHS Digital, sy’n dal y wybodaeth yn ddiogel.

Oes rhaid i mi gymryd rhan mewn astudiaeth os ydw i’n cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â mi?

Nac oes. Trwy gofrestru i gysylltu â chi, rydych yn caniatáu i ymchwilwyr gysylltu â chi am astudiaethau penodol. Byddant yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr astudiaeth, a byddwch yn gallu gofyn cwestiynau. Yna gallwch chi benderfynu a ydych chi am gymryd rhan ai peidio. Eich dewis chi yw.

Rwy'n ymchwilydd, a allaf i gael gafael ar wybodaeth pobl sydd wedi cofrestru?

Dim ond ymchwilwyr sy’n gweithio ar astudiaethau brechlyn coronafeirws penodol sy’n cael gweld y wybodaeth hon. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, defnyddiwch y ffurflen gyswllt ar wefan Be Part of Research.

Information:

Rhagor o wybodaeth

Cael gwybod mwy am:

Page last reviewed: 21 March 2023
Next review due: 21 March 2026