Brechlynnau yw’r ffordd fwyaf effeithiol o atal heintiau fel coronafeirws (COVID-19).
Mae ar ymchwilwyr angen pobl i gymryd rhan yn eu hastudiaethau fel eu bod yn dysgu pa frechlyn newydd posibl sy’n gweithio orau.
Ar y dudalen hon, gallwch gofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ynglŷn â chymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn coronafeirws cymeradwy y DU. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ymuno â’r gofrestrfa brechlyn COVID-19.
Beth fydd yn digwydd pan ydych yn cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi
Gallwch gofrestru ar-lein. Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi ynglŷn â chi eich hun, ac yna’n gofyn am eich caniatâd i ymchwilwyr ar yr astudiaethau brechlyn gysylltu â chi.
Os ydych chi’n cofrestru, cedwir eich manylion yn ddiogel. Dim ond ag ymchwilwyr sy’n meddwl y gallech fod yn addas ar gyfer astudiaeth y maent yn gweithio arni y byddwn yn rhannu’r wybodaeth .
Bydd yr ymchwilwyr yna’n cysylltu â chi i ddweud mwy am yr astudiaeth, ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os ydych yn cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi, nid oes rhaid i chi gymryd rhan mewn astudiaeth na siarad ag ymchwilwyr. Eich dewis chi yw.
Pwy all gofrestru i ymchwilwyr gysylltu â nhw ar gyfer astudiaethau brechlyn coronafeirws?
Mae unrhyw un 18 oed neu hŷn sy’n byw yn y DU yn cael cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â nhw ynglŷn â chymryd rhan mewn astudiaethau brechlyn coronafeirws. Nid oes unrhyw derfyn oedran uwch.
Yn aml, mae angen i ymchwilwyr gynnwys pobl â gwahanol gyflyrau iechyd i weld sut y mae’r brechlyn yn gweithio. Os oes gennych chi gyflwr, mae’n bosibl y bydd astudiaethau y gallwch gymryd rhan ynddynt.
Beth mae astudiaethau brechlyn yn eu cynnwys?
Os ydych chi’n cymryd rhan mewn astudiaeth brechlyn, bydd angen i chi ymweld â’r ysbyty, neu safle ymchwil arall, ychydig o weithiau dros 6 i 12 mis.
Yn ystod yr ymweliadau hyn, byddwch fel arfer:
yn cael gwybod am yr astudiaeth ymchwil
yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau
yn cael profion gwaed
yn cael pigiad, a allai fod yn frechlyn neu beidio
Rhwng ymweliadau, bydd gofyn i chi ddweud wrth y tîm ymchwil am unrhyw symptomau sydd gennych. Efallai y bydd angen i chi wneud rhai pethau gartref, fel cymryd swab o’r gwddf neu’r trwyn bob wythnos, neu gadw dyddiadur.
A yw astudiaethau brechlyn yn ddiogel?
Rhoddir brechlynnau ar brawf i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel cyn eu profi ar bobl.
Bydd nifer y bobl y profir y brechlyn arnynt yn dibynnu ar gam yr astudiaeth. Fel arfer, dywedir wrthych faint o bobl sydd wedi cael eu profi cyn i chi benderfynu cymryd rhan mewn astudiaeth.
Ni fydd y brechlyn yn rhoi coronafeirws i chi. Cynlluniwyd brechlynnau fel nad ydynt yn achosi'r haint.
Mae siawns y ceir sgîl-effeithiau. Mae sgil-effeithiau cyffredin yn cynnwys:
briw, cochni a chwydd yn safle’r pigiad
blinder
cyhyrau poenus
gwres uchel
Gall y rhain barhau am ychydig o ddiwrnodau, ac fel arfer maent yn gwella ohonynt eu hunain.
A ofynnir i mi ymuno ag astudiaeth sy'n bell i ffwrdd?
Mae ymchwil brechlyn coronafirws yn digwydd ledled y DU, felly mae’n debygol y bydd yna rywfaint o ymchwil yn digwydd yn agos atoch chi.
Os yw ymchwilydd yn gofyn i chi gymryd rhan mewn astudiaeth, gallwch ddweud na os ydych chi'n teimlo ei bod hi'n rhy bell i ffwrdd.
Pwy sy’n rhedeg astudiaethau brechlyn coronafeirws?
Yn Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) ydy partner ymchwil y GIG. Mae’r NIHR yn gweithio gyda phartneriaid ymchwil GIG cyfatebol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban ar astudiaethau brechlyn.
Os byddwch chi’n cofrestru i ymchwilwyr gysylltu â chi ynglŷn ag astudiaethau ymchwil, dim ond ymchwilwyr ar astudiaethau y mae’r NIHR wedi’u cymeradwyo fydd yn gallu cysylltu â chi.
Gallwch chi weld mwy am yr astudiaethau brechlyn hyn ar wefan Bod yn Rhan o Ymchwil yr NIHR.
Mae reolau pendant ynglŷn â diogelwch a chyfrinachedd y mae’n rhaid i bob ymchwil iechyd, gan gynnwys astudiaethau brechlyn, eu dilyn.
Sut mae astudiaethau’n cael eu cymeradwyo?
Protocol yw’r enw ar y cynllun cyffredinol ar gyfer astudiaeth ymchwil. Cyn y gall astudiaeth ddechrau, mae angen i'r protocol gael ei gymeradwyo gan grŵp o ymchwilwyr nad ydynt yn rhan o'r astudiaeth.
Bydd pwyllgor moeseg ymchwil annibynnol hefyd yn adolygu’r protocol. Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am ofalu am eich hawliau, diogelwch, urddas a llesiant pan fyddwch yn cymryd rhan mewn ymchwil. Gall hefyd benderfynu a all yr astudiaeth fynd yn ei blaen.
Ni chaniateir i ymchwilwyr newid y protocol heb ddweud wrth y pwyllgor moeseg. Gall y pwyllgor moeseg atal astudiaeth ar unrhyw adeg os oes ganddo unrhyw bryderon ynghylch lles pobl sy'n cymryd rhan.